Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Medi 2013 i’w hateb ar 25 Medi 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

 

1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid cyffredinol a ddyrennir i’r portffolio Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth? OAQ(4)0311(FIN)

 

2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi’u cael â'r Gweinidog Iechyd ynghylch cyllido hirdymor y Gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0299(FIN)

 

3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb gyffredinol a ddyrennir i’r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0297(FIN)

 

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd? OAQ(4)0295(FIN)

 

5. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae toriadau i grant bloc Cymru yn effeithio ar gyllidebau? OAQ(4)0296(FIN)

 

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol ceisiadau Llywodraeth Cymru i gronfa strwythurol yr UE? OAQ(4)0302(FIN)

 

7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddyrannu cyllid un-tro ychwanegol i’r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0310 (FIN)

 

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei rhaglen gyfalaf? OAQ(4)0293(FIN)

 

9. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diddymu’r defnydd o gosbrestru gan gwmnïau sy’n ymgeisio am gontractau’r sector cyhoeddus? OAQ(4)0298(FIN)

 

10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am y cylch newydd o Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd? OAQ(4)0308(FIN)R

 

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? OAQ(4)0301(FIN)W

 

12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i atal cwmnïau a busnesau rhag cosbrestru gweithwyr? OAQ(4)0294(FIN)

 

13. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gynnydd a wnaed ar ennill pwerau benthyca? OAQ(4)0309(FIN)

 

14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i amddiffyn gweithwyr drwy ddiddymu cosbrestru yng Nghymru? OAQ(4)0300(FIN)

 

15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrennir i’r portffolio Cyfoeth Naturiol a Bwyd? OAQ(4)0292(FIN)

 

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

 

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol? OAQ(4)0314(LG)

 

2. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i roi terfyn ar drais domestig? OAQ(4)0308(LG)

 

3. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi’u cael gydag awdurdodau lleol a’r Gweinidog Cyllid ar gyllido Llywodraeth Leol? OAQ(4)0322(LG)

 

4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod? OAQ(4)0317(LG)

 

5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i gynyddu nifer y contractau llywodraeth leol sy’n mynd i gwmnïau lleol? OAQ(4)0316(LG)W

 

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol a’u partneriaid lleol i gefnogi rhagor o gynllunio cymunedol ar y cyd? OAQ(4)0320(LG)

 

7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnal a chadw toiledau cyhoeddus ar hyd Rhwydwaith Cefnffyrdd Cymru? OAQ(4)0313(LG) TROSGLWYDDWYD I'W ATEB YN YSGRIFENEDIG GAN Y GWEINIDOG YR ECONOMY, GWYDDONIAETH A THRAFNIDIAETH

 

8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i awdurdodau lleol yng Nghymru o ran rhoi cyflog byw ar waith? OAQ(4)0306(LG)

 

9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd i fynd i’r afael ag awdurdodau lleol sy’n methu? OAQ(4)0310(LG)

 

10. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0307(LG)

 

11. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i annog mwy o amrywiaeth mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0311(LG)

 

12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y dreth gyngor ar ail gartrefi? OAQ(4)0315(LG)W

 

13. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sgyrsiau y mae wedi’u cael gyda’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol? OAQ(4)0309(LG)

 

14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi terfyn ar gontractau dim oriau ymysg gweithwyr awdurdod lleol? OAQ(4)0318(LG)

 

15. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar y dreth gyngor? OAQ(4)0321(LG)W

 

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

 

1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am hygyrchedd darlledu’r Cynulliad ar gyfer pobl anabl? OAQ(4)0074(AC)

 

2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Comisiwn y Cynulliad roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau sydd ganddo i gyflwyno ap ffôn clyfar Cynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)0075(AC)